Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd, ond datgan ei phenderfyniad. Ac felly, er nad oedd y peth yn werth bywyd un dyn, er na fuasai un o'r pleidiau yn y Cytundeb yn barod i'n cynorthwyo i orfodi Rwsia i gadw ato, a bod perygl i ni ar bob llaw, er bod ein cweryl yn achos yr Alabama heb ei benderfynnu rhyngom ag America, er y rhagolygon truenus oedd fel hyn o'n blaen, a'r esiampl ofnadwy o echryslonrwydd rhyfel yn cael ei weithio allan yng ngwydd y byd ar y Cyfandir, yr oedd y Wasg, a phlaid gref yn y deyrnas hon, yn gwaeddi yn uchel am i ni fynnu gorfodi Rwsia i gadw at y Cytundeb! Gwnaeth Mr. Richard ei oreu, trwy'r Wasg, ac ar yr esgynlawr, i wrthweithio yr ysbryd rhyfelgar oedd yn ffynnu, a danghosodd mor ynfyd ydoedd. Dywedodd fod rhai o oreugwyr y wlad yn erbyn y fath ynfydrwydd, a bod yn ofidus meddwl fel yr oedd y Wasg, megys y Saturday Review a'r Pall Mall Gazette yn chwythu fflam rhyfel. Ie, yn wir, yr oedd dynion oedd yn proffesu bod yn ddyngarwyr a Christionogion, megys Arglwydd Shaftesbury ac Esgob Carlisle, o blaid rhyfel. Ond yr oedd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn rhy gall i gymeryd ei harwain gan y blaid ryfelgar hon. Yr oedd wedi dysgu erbyn hyn nad oedd yr hyn yr ymladdwyd cymaint o'i blaid yn 1854—5 yn