Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

desgrifiai Washington Irving ef, fel pryf-copyn mawr yn lledu ei deimlyddion hirion dros bob man, ac ni allai y gwybedyn lleiaf ddod yn agos, na fyddai yn cyffwrdd â rhai o honynt, ac yn ei gyffroi. Yr oedd un blaid, fel y dywedai, am ymladd yn erbyn y Tyrciaid. Cyffrodd eu creulonderau yn Bulgaria eu teimladau tyner a dyngarol; ond eu camgymeriad oedd tybied mai y ffordd i atal creulonderau oedd cyflawni rhai ereill, a hwyrach rhai gwaeth. Yr oedd plaid arall—â'r hon yr oedd ganddo lawer llai o gydymdeimlad—am fyned i ryfel yn erbyn Rwsia. Ond credai efe ein bod wedi cael digon o helbul a gwaradwydd yn ein rhyfel diweddaf â'r wlad honno, heb i ni wneud yr un camgymeriad trychinebus drachefn. Yr oedd Mr. Gladstone wedi gwneud gwasanaeth anrhaethol werthfawr i'w wlad wrth ddyrchafu ei lais mor glir yn erbyn y cynhygiad gwallgof hwn. Yr oedd rhai yn canmol y Twrc, ac yn dweud ei fod yn ymladdwr gwych. Oedd; ac yr oedd y gwaed-gi, y dylaf o gŵn, yn gwffiwr di-ail. Yr oedd creulonderau y Tyrciaid yn ddiarhebol. Dywedai dau feddyg parchus eu bod wedi gadael 400 o glwyfedigion Rwsiaidd i ddihoeni a marw ar y maes, ac am y rhai a gymerent yn garcharorion clwyfedig, torrid eu gwefusau a'u trwynau ymaith. Am eu clwyfedigion eu