Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunain, dywedai Gohebydd y Times eu bod yn cael eu gadael i wella neu drengu, heb un gofal am danynt. A dyma'r dynion yr oedd rhai pobl yn y wlad hon yn bloeddio am i ni fyned allan i ymladd drostynt! A'r drwg ydoedd, nad oedd un o'r gwŷr hyn oedd yn eistedd yn eu parlyrau gwychion, a'u traed mewn esgidiau esmwyth, ac yn ysmocio yn gysurus, yn meddwl am funud am fyned allan eu hunain i faes y frwydr. Yr oedd efe (Mr. Richard) wedi gwylied y dynion hyn yn bur fanwl yn amser rhyfel y Crimea—dynion a allent ysgrifennu erthyglau i erlid Cobden a Bright—gan eu galw yn wladgarwyr bastarddol, ac yn uchel eu cri am i ni gario y rhyfel ymlaen yn fwy egniol, ac yn areithio mewn cyfarfodydd i gyffroi y lluaws, ac eto ni chlywodd un- waith am un o honynt yn cynnyg myned allan ei hunan. A oedd eu heisieu? Oedd. Dywedai Arglwydd Grey fod nifer y dynion a ymrestrodd yn y fyddin rhwng 40,000 a 50,000 yn llai na'r nifer a basiwyd yn y Senedd, a hynny ym mhoethder y rhyfel. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn bleidiol i orfodi dynion i fyned allan i ryfel; ond o'i ran ef, ni fuasai yn gresynnu llawer, pe gallesid danfon y gwŷr hyn i sefyll yn rhengau blaenaf y milwyr yn nydd y frwydr. Gwyn fyd na welid y dydd y dywedai y bobl wrth eu llywodraethwyr,—"Os