Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda digllonedd, fod Rwsia wedi cyrraedd y pwynt uchaf o orthrwm, gan ei bod wedi gorfodi pobl Poland i ddefnyddio yr iaith Rwsiaidd yn eu llysoedd cyfreithiol. "Dywedais wrtho," meddai Mr. Richard, "mai dyma yn union yr hyn y mae llywodraeth Prydain yn ei wneud yn y dyddiau hyn yng Nghymru. Y mae pob Cymro, druan, yn agored i gael ei brofi am ei fywyd, ac y mae cannoedd wedi cael eu profi am eu bywyd, mewn iaith ag yr oeddent yn hollol anhyddysg ynddi. Ond nid oedd fy nghyfaill yn gweled dim allan o le yn hyn pan wneid ef gan y Sais yn erbyn y Cymro; ond yr oedd yn beth ofnadwy pan wneid ef gan Rwsia yn erbyn Poland. ... Ond, meddid, yr oedd Rwsia yn allu mawr ymosodol. Ond beth am Brydain? Nid oedd am gyfreithloni y naill na'r llall; ond yr oeddem ni, fel y wraig honno yn Llyfr y Diarhebion, 'Hi a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wnaethum i anwiredd.'”

Mae y darllennydd, yn ddiau, yn gwybod am y modd y terfynodd y rhyfel ofnadwy rhwng Rwsia a Thwrci. Nis gellir edrych yn ol ar y cyfnod hwn, heb deimlo fod cymeriad y Weinyddiaeth Doriaidd wedi ei darostwng yn dra isel. Ym mis Ebrill, 1877, y cyhoeddodd Rwsia ryfel yn erbyn Twrci. Buwyd yn ymladd am bymtheg mis, a chollwyd miloedd o fywydau.