Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y diwedd, cynhaliwyd Cynhadledd yn Berlin, pryd y gwnaethpwyd y Cytundeb a alwai Mr. Gladstone yn "Gyfamod Gwallgof," ac o'r hon y daeth Arglwydd Beaconsfield ac Arglwydd Salisbury i Lundain fel dau fuddugoliaethwr, gan ddwyn gyda hwynt, meddent hwy, "Heddwch ac Anrhydedd!" Erioed ni ddallwyd y wlad gan rith mwy disylwedd na'r pryd hwnnw.

Ysgrifennodd Mr. Richard erthyglau cryfion iawn yn erbyn Cytundeb Berlin. "Nis gallwn," meddai mewn un erthygl, "anturio dweud ein meddwl am natur ffol y fath Gytundeb;" a dywed fod ei delerau yn ein rhwymo i amddiffyn Twrci mewn amgylchiadau mor amrywiol yn ein cysylltiad â Cyprus, fel nad oedd ganddo un amheuaeth, pan elwid arnom i gyflawni ein hymrwymiadau, nad ymwingem allan o honynt mewn rhyw fodd iselwael neu gilydd. Ac onid felly y gwnaed yn 1896 ? Darllener yr araeth olaf a draddododd Mr. Gladstone yn Hengler's Circus yn Liverpool, a meddylier am yr hyn a gymerodd le wedi hynny, a cheir profion diymwad fod Mr. Richard yn ei le. Ynglŷn â'r Gynhadledd yn Berlin, aeth Mr. Richard a Henry Pease, a Leoni Levi i Berlin ar ran y Gymdeithas Heddwch i gyflwyno Deiseb o blaid yr egwyddor o Gyflafareddiad.