Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwestiwn trwy Gyflafareddiad." Methasant gael gweled y Tywysog Bismarck nac Arglwydd Beaconsfield. Cawsant weled Herr Bucher, Arolygydd Cofnodfa'r Gynhadledd, a Herr Von Bülow, Ysgrifennydd Tramor Germani. Dywedodd yr olaf fod ganddo barch mawr i ddynion oedd mor llafurus mewn achos mor deilwng. Ofnai na phasient erthygl yn eu rhwymo i fabwysiadu Cyflafareddiad. Nid oedd ganddynt ond dymuno am amseroedd gwell, ac ysgydwodd law â hwynt gan ddweud,—"Duw a'ch bendithio yn eich gwaith."

Talodd y tri wŷr hyn ymweliad â'r Proffeswr Lepsius, yr ysgolhaig Aifftaidd enwog. Dywedodd wrthynt fod Ewrob i gyd o'u plaid, ond y diplomyddion, ac nid oeddent hwy gymaint yn erbyn, ond eu bod yn methu deall gwir ystyr eu neges. Cawsant hefyd ymddiddan a'r "Crown Princess" (Tywysoges Frenhinol Lloegr). Ar ol clywed eu neges, dywedodd,—"Mae eich amcan, pa un bynnag a lwyddwch ai peidio, yn un tra chanmoladwy. A ydych yn dymuno i mi osod hwn (sef copi o'r Ddeiseb oedd yn ei llaw) o flaen fy ngŵr?" Pan atebwyd yn gadarnhaol, dywedai,—"Mi wnaf, gyda phleser." Pan ddywedwyd yr hyderent y gwnai ei Huchelder arfer ei dylanwad o'u plaid, codai ei hysgwyddau dan wennu,