Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

World, y rhai wedi hynny a gyhoeddwyd yn bamphled. Os dymuna neb gael adroddiad manwl о wir natur yr helynt hwnnw, nis gall wneud yn well na darllen y llythyrau hyn. Yn yr un flwyddyn hefyd, fe hyrddiwyd y wlad hon i ryfel yn erbyn y Zuluiaid, a gwnaeth Mr. Richard yr un gwasanaeth i'w wlad yn erbyn y rhyfel hwnnw. Cyhoeddodd bamphledyn i egluro yr holl gwestiwn, a danghosodd mor ddianghenraid ydoedd, fel y danghogwyd hefyd, wedi hynny, gan Mr. Gladstone yn ei areithiau digyffelyb ym Mid- lothian.

(1879) Gŵyr ein darllenwyr, yn ddiau, am drychineb Isandula, pan, ar y 29ain o Ionawr, 1879, y daeth 18,000 o'r Zuluiaid ar warthaf y milwyr Prydeinig yn anisgwyliadwy ac y lladdwyd yr oll o honynt, bron, sef tua 800; ac o'r Zuluiaid tua 2,000. Yr oedd yr holl bapurau trwy'r deyrnas yn galw yr ymosodiad hwn yn "gyflafan" a "llofruddiaeth." Ond dywedai Syr Wilfred Lawson nad oeddent yn gwneud dim ond amddiffyn eu gwlad yng ngwyneb ymosodiad, a phe buasai y Zuluiaid yn byw yn Poland, ac yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid, buasai holl newyddiaduron y deyrnas yn seinio eu clodydd ac yn eu galw yn wladgarwyr ac yn wroniaid. Pa fodd bynnag, cafodd y Zuluiaid hyn deimlo dialedd Prydain.