Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lladdwyd o honynt, wedi hynny, tua 20,000! Yn y rhyfel hwn y collodd Napoleon ieuanc ei fywyd. Siaradodd Mr. Richard yn rymus yn y Senedd yn erbyn y rhyfeloedd hyn. Yr oedd ei araeth ar y 24ain o Ebrill, 1879, yn finiog iawn. Gwawdiai ddadleuon disail Syr Bartle Frere o blaid y rhyfel. Pwy, gofynnai, fuasai yn dychmygu mai un o honynt oedd fod y Zuluiaid yn cadw byddin sefydlog o ddynion dibriod, y rhai oeddent o ganlyniad yn beryglus ini! Ac, oherwydd hynny, yr oeddem ninnau yn danfon allan fyddin sefydlog cyffelyb i'w rhoi i lawr! Dywedid wrthym, meddai Mr. Richard, gan rai yn y Tŷ, mai y rhai a ddadleuant o blaid Heddwch "am unrhyw bris" oedd perygl mwyaf y deyrnas. Nid oedd neb o'r cyfryw i'w cael ond y "Cyfeillion,” y rhai a honnent fod rhyfel yn groes i Gristionogaeth, a heriai efe yr holl Fainc Esgobol i wrthbrofi eu gosodiad. Y deymas mewn perygl oddiwrth y cyfryw blaid, yn wir! Meddylier am ein gwahanol ryfeloedd er y flwyddyn 1816. Yr oeddent yn 73 mewn 63 o flynyddau; ac eto fe ddywedid fod y wlad mewn perygl o gael ei llygru gan blaid oedd, meddid, yn dadleu dros Heddwch!

Gofynnodd Mr. Richard gwestiynau lawer, yn ystod y rhyfel yn Zululand, ond nid oedd dim