Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond atebion cwta i'w cael, ac weithiau atebion nad oeddid yn siwr y gellid ymddiried ynddynt. Yr oedd Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield yn un ag oedd wedi dwyn cymeriad ein gwlad i lawr raddau lawer. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud, mewn araeth yn Leeds, ym mis Ionawr, y flwyddyn hon, fod amser wedi bod pan y gellid ymddiried i air Gwladweinydd Prydeinig, "Ond," meddai, "y mae gennym Brif Weinidog yn ben ar y wlad ag y mae yn anichonadwy ei binio i lawr wrth unrhyw air a ddywed, ac y mae wedi heintio ei gydswyddogion â'r un anghywirdeb." Cyhuddiad pwysig ydoedd hwn, ond yr oedd yn rhy wir, ac y mae lle i ofni fod rhywbeth tebyg yn bod yn awr pan ydym yn ysgrifennu?

Na thybied neb fod y rhyfeloedd Prydeinig o angenrheidrwydd yn cael eu cario ymlaen bob amser yn unol â rheolau gwareiddiad, fel y gwelwn oddiwrth y dyfyniad canlynol allan o'r Natal Mercury, dyddiedig Ebrill 3lain, o eiriau un Captain D'Arcy,—

"Drannoeth, daeth ein brodyr duon ymlaen, ac ymosodasant ar y gwersyll i'r nifer o 20,000 i 23,000, ac ar ol ymladd am chwe awr cymerasaut y traed. Lladdasom dros 2,300, ac yna aeth y gwŷr meirch ar eu holau am wyth milltir, gan gigyddio y bwystfilod (butchering the brutes) ym mhob man. Dywedais wrth y dynion,—