Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Dim arbed, fechgyn; cofiwch ddoe!' Ac fe ddarfu iddynt eu curo o gwmpas, gan eu lladd yn ddiarbed."

Darllenwyd y dyfyniad hwn gan Mr. Justin McCarthy yn y Senedd, ac nis gellid gwadu y ffaith; ond y cwbl a ddywedai Syr Michael Hicks-Beach oedd, fod Cadben D'Arcy yn gyfrifol i'r Swyddog oedd drosto! Pa bryd y daw y bobl i sylweddoli y ffaith mai peth barbaraidd yw rhyfel bob amser, ac mai ofer son am ei ddwyn ymlaen yn unol âg

egwyddorion gwareiddiad?[1]

  1. Honnid gan ei bleidwyr fod y rhyfel diweddar yn Affrica yn cael ei ddwyn ymlaen yn y modd mwyaf dynolgar ag oedd bosibl, tra y dywedai ereill fod Prydain yn arfer" moddion barbaraidd." Ffromodd newyddiaduron Germani yn aruthr am i Mr. Chamberlain dweud fod y Germaniaid wedi arfer moddion cyffelyb, os nad gwaeth, yn y rhyfel rhyngddynt a Ffrainc yn 1870-1. Ond y mae yr Anrhydeddus Aubern Herbert yn y Contemporary Review, (Gorffennaf, 1902), mewn erthygl o dan y penawd, How the pot called the kettle black, yn dangos fod cyhuddiad Mr. Chamberlain yn hollol wir. Un peth ydyw pasio penderfyniadau mewn cynhadledd yn ymrwymo i ymgadw rhag arfer creulondeb dianghenraid mewn rhyfel, ond peth arall ydyw cario y penderfyniadau hynny allan pan y mae y nwydau anifeilaidd wedi eu cyffroi. Mae yr hyn a gymerodd le yn Neheudir Affrica, yn China, ac yn Ynysoedd y Philippine, yn eglur ddangos hynny. Na, peth barbaraidd ydyw rhyfel o angerrheidrwydd.