Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ail o Ebrill, a gosodwyd ef ar ben y rhestr fel y gwelir isod,

Richard………………8,035
James ………………7,526
Lewis…………………4,415

Yr oedd yn naturiol i Mr. Richard deimlo yn llawen fod ei gydweithiwr aiddgar, Mr. James, wedi ei ddychwelyd trwy fwyafrif mor fawr. Am Mr. Lewis, ymgeisydd anibynnol ydoedd mewn enw; ond yr oedd yn dibynnu, er hynny, yn bennaf ar bleidleisiau perchenogion y Cloddfeydd Glo a'u goruchwylwyr. Yn anerchiad clir a gonest Mr. Richard at yr etholwyr, dywedai ei fod wedi eu cynrychioli am ddeu- ddeng mlynedd, ac felly, fod ei egwyddorion yn berffaith hysbys iddynt,—sef, Cydraddoldeb Crefyddol, Cyflafareddiad, Helaethiad yr Etholfraint, Diwygiad yn ein Cyfreithiau Tirol a'n Cyfreithiau Trwyddedol, Symleiddiad Deddfau Troseddau, Symud Cwynion rhesymol y Gwyddelod, Uniawni Trethiad India, ac, wrth gwrs, Heddwch.

Nid oedd yn credu fod llwyddiant Prydain yn debyg o gael ei sicrhau trwy dwyll, trais, a gwaed, ond trwy gerdded llwybrau Heddwch, a chofio yn ein holl drafodaeth mai "Cyfiawnder a ddyrchafa genedl." Yn yr Etholiad hwn profodd Cymru ei hun yn ffyddlon i'w hegwyddorion. Ni ddanfonodd