Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond dau Geidwadwr i'r Senedd, sef, Syr Watkin Wynn ac Arglwydd Emlyn; a mawr oedd y difyrwch ar y pryd pan ddywedid y gallent fyned i fyny gyda'u gilydd i Lundain mewn un cerbyd, a phe buasid wedi dod ag ymgeisydd arall yn Sir Gaerfyrddin, yn ol pob tebyg, buasai deurod yn ddigon i'r pwrpas. Hawdd credu fod hyn yn llonder mawr i Mr. Richard, yr hwn a fu mor ffyddlon yn cymhell y Cymry i lynnu wrth eu hegwyddorion fel Ymneillduwyr, ac yn arbennig hefyd am ei fod yn edrych ar yr Etholiad hwn fel condemniad ei gydwladwyr ar wladweiniaeth dramor Arglwydd Beaconsfield.

"Y cwestiwn, a'r unig gwestiwn," meddai Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd ar yr achlysur, mewn effaith ydoedd hwn,—'A ydym ni i gael gwladweiniaeth dramor ryfelgar ynte un heddychol?' Trwy gydsyniad cyffredin yr oedd pob cwestiwn arall wedi ei roddi i fesur o'r naill du a'i ohirio. Yn ffodus y mae yr ateb wedi bod yn glir, yn benderfynnol, a digamsyniol, ac y mae hyn i mi yn destyn llawenydd dwfn a didwyll."

Llawenychai yn fawr hefyd fod dros gant o'r mwyafrif yn Anghydffurfwyr.

Ysgrifennodd Mr. Richard lythyr maith i'r Daily News, ar y 27ain o Ebrill, yn taflu golwg dros yr Etholiad hwn. Heblaw nodi y ffaith fod yr Etholiad yn dangos fod Cymru yn