Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

genedl o Anghydffurfwyr, ac yn cashau rhyfel, cyfeiriodd at y cyhuddiad a wnaed gan Arglwydd Penrhyn fod y Cymry wedi torri eu haddunedau fel etholwyr. Nid oedd yn credu fod llawer o sail i'r cyhuddiad, ond gwasgai adref yr ystyriaeth, ai nid oedd y cyhuddiad, os oedd yn wir, yn dangos mai cenedl o. Ryddfrydwyr oedd y Cymry, ac o ganlyniad, nad oeddent yn ffafriol i'r Toriaid? Gwnaeth sylwadau tarawiadol iawn hefyd ar y cyhuddiad fod y Gweinidogion Ymneillduol wedi arfer eu dylanwad; a gofynnai, yn enw pob rheswm, pam na chaent wneud hynny cystal a'r clerigwyr. Yr oedd eu dylanwad yn un moesol, ac o ganlyniad yn un iachus a gonest. Nid oedd y mawrion yn deall iaith y bobl, ac ni wyddent fawr am eu gwir syniadau. Dylasai y ffaith fod 26 o'r cyfnodolion yng Nghymru yn rhai Rhyddfrydig ac Anghydffurfiol ddysgu gwers i'r pendefigion hyn.

Traddododd Mr. Richard hefyd rai areithiau grymus yn yr Etholiad hwn. Mae yr un a draddododd yn Neuadd tref Llanidloes, yn yr hon y mae yn cymharu Gweinyddiaeth flaenorol Mr. Gladstone a Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield a'i dilynodd, yn un o'r rhai mwyaf effeithiol o'i eiddo; ac y mae ei gondemniad o spirited foreign policy yr olaf, yn dangos fod