Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Richard yn feistr perffaith ar holl helyntion tramor y Weinyddiaeth honno. Yr oedd yn diolch i Dduw, yn onest, meddai, fod dyddiau y fath Weinyddiaeth wedi terfynnu. Yr oedd y diweddar Barch. Thomas Evans, wrth gyflwyno diolchgarwch i Mr. Richard am ei araeth ragorol, yn ei alw "yr areithiwr aurennau hwnnw, John Bright Cymru, sef, Mr. Henry Richard."

Disgwylid llawer oddiwrth y Senedd newydd. Temlai Cymru ei bod wedi ennill ei rhyddid cenedlaethol, ac y gallai bellach ymddiried yn llwyr i ddiogelwch y tugel. Yna mis Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod mawr o Gymry yn y Palas Grisial, i ddathlu yr amgylchiad. Dywedir fod tua 4,000 o bobl yn bresennol. Yr oedd cerbydau rhad yn rhedeg i'r brif ddinas o wahanol barthau y Dywysogaeth. Siaradodd Mr. Richard yn y cyfarfod yn y ddwy iaith. Yn ystod y cyfarfod daeth Mrs. Gladstone a'i merch, a'i mab, Herbert, i mewn, ac aethant ar y llwyfan.

Danfonodd y Frenhines am Arglwydd Hartington i geisio ffurfìo Gweinyddiaeth, ac wedi hynny am Arglwydd Granville, ond nid oedd y naill na'r llall yn barod i ymgymeryd â'r gorchwyl. Gwyddent mai Mr. Gladstone oedd yr unig un a fyddai gymeradwy gan y Senedd