Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r wlad, beth bynnag oedd teimlad ei Mawrhydi ei hun. Fel y gwyddis, bu raid danfon am "yr hen ŵr ardderchog," ac, ar ol llawer o drafferth, ffurfiodd Weinyddiaeth. Ymysg Aelodau y Cyfrin-Gyngor yr oedd y fath Ryddfrydwyr pendant a Mr. John Bright a Mr. Joseph Chamberlain. Y mae yn syn meddwl yn awr fod gwrthwynebiad mawr, gan rai o'r gwŷr mwyaf cymhedrol, i Mr. Chamberlain, am ei fod yn rhy Radicalaidd!

Gan fod Syr G. Osborne Morgan yn un o Aelodau y Weinyddiaeth newydd, ni fu yn hir cyn dwyn cwestiwn y Mesur Claddu i sylw, ac fe wyddis y bu Mr. Richard yn gynhorthwy mawr yn yr achos hwn. Cariwyd ef, ym mis Awst, trwy fwyafrif o 258 yn erbyn 79. Ceisiwyd llurgynio y Mesur yn y Tŷ Uchaf, ac anafwyd rhyw gymaint arno, ond pasiodd o'r diwedd. Nid oes eisieu dweud fod Mr. Richard wedi cymeryd rhan bwysig yn y dadleuon ar y cwestiwn hwn. Gwnaeth ymdrechion egniol hefyd i gael gwelliant yn Neddf y Claddfeydd Cyffredin, ac ymladdodd lawer i'w chael yn fwy cydweddol â dymuniadau Anghydffurfwyr, ond yr oedd y rhwystrau ar y pryd yn anorfod. Yr oedd Mr. Richard yn ffyddlon yn presenoli ei hun yn y Senedd, ac yn barod i wasanaeth bob amser y gelwid arno. Siaradodd yn gryf yn