Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erbyn y mesur i gymeryd Cyfrif o Grefydd y bobl yn 1881, ac o blaid Mesur Cau y Tafarnau ar y Saboth. Wrth siarad ar y blaenaf, rhoes gystwyad i Mr. Beresford Hope a ddylasai fod yn wers iddo. Ar yr un pryd yr oedd gorchwylion Mr. Richard mor lluosog, ynglŷn â'r materion hynny yr edrychai arnynt yn brif waith ei fywyd, fel nad oedd am esgeuluso y rhai hynny i wrando ar bob math o siaradach, hyd yn oed yn y Senedd.

(1880) Ar y 15fed o Fehefin, cafodd gyfleustra i ddwyn o flaen y Tŷ gwestiwn ag oedd yn agos iawn at ei galon, ac un y bu efe, a phleidwyr Heddwch, yn gwneud darpariadau lawer ar ei gyfer. Cynhygiodd y penderfyniad pwysig canlynol,—"Fod anerchiad gostyngedig yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yn erfyn arni weled yn dda, yn rasol, i orchymyn i'w Phrif Ysgrifennydd Tramor i ymohebu â Galluoedd ereill i'r diben o gydleihau arfau milwrol yn Ewrob." Yr oedd yr araeth a draddododd ar yr achlysur hwn yn un o'r rhai mwyaf hapus, a chafodd wrandawiad astud a pharchus. Nis gallwn ond nodi ei sylwedd. Ar ol rhai sylwadau rhagarweiniol, dywedai mai nid y tir y safai arno oedd tir "heddwch am unrhyw bris," ond tir ag y gallai amddiffynnydd mwyaf aiddgar rhyfel sefyll arno. Gosodai i