Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lawr, yn gyntaf, y ffaith fod arfau milwrol Ewrob ar y pryd yn arswydus o fawr a chostus, mor fawr fel y gellid tybied mai gwir atebiad i'r cwestiwn yn y Catecism,—"Beth yw prif ddiben creadigaeth dyn?" ddylasai fod, "Paratoi i ymladd." Olrheiniodd ddechreuad a chynnydd byddinoedd sefydlog, a'r modd yr oeddent yn cael eu chwanegu bob amser ar ol rhyfeloedd, a bod y pryd hwnnw tua 12,000,000 o wŷr yn cael eu hyfforddi yn Ewrob yn y gelfyddyd o ymladd, a bod tua 4,000,000 yn barhaus o dan arfau, a'r gost tua 500,000,000 o bunnau yn y flwyddyn. Danghosodd fel yr oedd y fath swm yn tlodi gwledydd, nid yn unig oherwydd yr arian a werid, ond hefyd y golled trwy fod cynnifer yn cael eu troi oddiwrth lafur enillgar. Difawyr oedd milwyr, ond nid cynyrchwyr. Y cwestiwn pwysig i'w ofyn ydoedd,—"A oedd y gwŷr arfog hyn yn diogelu heddwch gwledydd?" oblegid dyna a ddywedid oedd eu hamcan. I'r gwrthwyneb, yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol yr oeddid wedi gwario y swm enfawr o 3,000,000,000 o bunnau ar ryfeloedd. Taflodd olwg dros brif wledydd Ewrob, a danghosodd, trwy ffigyrau diwrthbrawf, fel yr oeddent yn tlodi y teyrnasoedd hynny, ac yn eu gwasgu i'r llawr; ac yna daeth at y cwestiwn mawr, pwysig,—Ai nid oedd modd gwneud dim i roddi atalfa ar