Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gyfundrefn ffol hon. Dygodd dystiolaethau rhai o brif wladweinwyr y byd fod yn bryd gwneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwnnw, neb amgen nag Arglwydd Derby, Mr. Gladstone, Mr. Bright, Syr Robert Peel, Arglwydd Beaconsfield, Duc Wellington, ie, a'r Times hefyd, yr hwn a ysgrifennai,—"Os pery pethau fel hyn, bydd yn warth i wladweinwyr Ewrob; ar eu hysgwyddau hwy y bydd y cyfrifoldeb yn gorffwys." Danghosodd hefyd fel yr oedd Seneddau, a phrif wyr y Cyfandir, y rhai y cyfarfu efe â hwynt, wedi datgan cymeradwyaeth i'r amcan hwn. Nid oedd heb wybod fod anhawsterau lawer i gario y peth allan, ond gofynnai, gyda phwyslais arbennig, os oedd gwladweinwyr Ewrob wedi gallu ychwanegu at eu harfau milwrol mewn ffordd o gydymgais, paham nad allent eu lleihau yn yr un modd. Wrth derfynnu, apeliodd at Mr. Gladstone, mewn geiriau hyawdl a theimladwy, i gymeryd y mater i ystyriaeth. Yr oedd wedi ennill llawer llawryf yn ei oes; ond os ymaflai yn y cwestiwn hwn o ddifrif, nid oedd un llawryf mwy gwyrdd a allai amgylchu ei dalcen na'r un a enillai trwy ddwyn y cenhedloedd i gydymgais i ostwng eu harfau milwrol.

Yr oedd yn amlwg fod yr araeth argyhoeddiadol hon wedi effeithio ar ddeall a theimlad Mr.