Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gladstone, oblegid pan gododd i siarad, ar ol i ereill gymeryd rhan yn y ddadl, danghosodd ei fod mewn llawn gydymdeimlad ag egwyddor araeth Mr. Richard; ni wadodd un o'i ffeithiau, yn hytrach gwnaeth rai o honynt yn gryfach. Ond, ar y cyfan, nid oedd yn barnu yn ddoeth pasio penderfyniad nad oedd y Tŷ yn barod i'w gario allan yn ymarferol. Yn y cyfwng hwn petrusai Mr. Richard ai doeth oedd rhannu y Tŷ, gan ei fod wedi cael araeth mor gefnogol gan y Prif Weinidog. Tra yn petruso fel hyn, galwodd Mr. Bright arno i ddod ato, a dywedodd yn ddistaw wrtho os boddlonai i newid rhyw gymaint ar ei gynhygiad ei fod yn credu y caniatai Mr. Gladstone iddo basio. Felly bu. Pasiodd y Tŷ, yn unfrydol, y cynhygiad canlynol,—"Fod y Tŷ hwn o'r farn mai dyledswydd Llywodraeth ei Mawrhydi ar bob achlysur, pan fyddai amgylchiadau yn caniatau, oedd cynghori llywodraethau tramor i leihau eu harfau milwrol." Er nad oedd cyfeillion Heddwch yn ystyried eu bod wedi cael eu hamcan, credent fod cam pwysig wedi ei gymeryd yng nghyfeiriad eu hegwyddorion. Ystyriai rhai o bapurau mwyaf dylanwadol y deyrnas fod Mr. Richard wedi gwneud gwaith mawr a phwysig. Dyna oedd llais y Daily News, y Daily Chronicle, a phapurau