Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ereill; ond, wrth gwrs, yr oedd rhai o wŷr hunan-dybus y Wasg, fel arferol, yn gwawdio.

(1881) Ar y 29ain o Ebrill, 1881, dygodd Mr. Richard gwestiwn arall pwysig iawn o flaen y Ty, sef y modd yr oedd ein llyngeswyr, a'n cynrychiolwyr mewn parthau pellenig o'r byd, yn cweryla â gwledydd barbaraidd, ac yn ymosod arnynt, ac weithiau yn achosi rhyfel rhwng y wlad hon a'r gwledydd hynny, heb fod y Llywodraeth gartref wedi rhoddi un math o awdurdod iddynt. Traddododd araeth faith ar yr achlysur, a dygodd brofion allan o'r "Llyfrau Gleision" a osodid o flaen y Ty, y rhai, y mae lle i ofni, nad oes ond ychydig yn eu darllen, ag oedd yn peri syndod cyffredinol. Yr oedd yn amlwg fod yr araeth hon hefyd wedi ennill llawer o gydymdeimlad Mr. Gladstone, oblegid ei eiriau cyntaf yn ei atebiad ydoedd y rhai hyn,—

"Mae y maes a agorwyd gan fy nghyfaill anrhydeddus, fel y mae wedi sylwi yn bur briodol, yn un eang iawn. Nid wyf wedi gwrando ar areithiau fy nghyfaill anrhydeddus ar faterion fel hyn, un amser, heb lawer iawn o gydymdeimlad â'r rhan fwyaf o'r syniadau y maent yn eu cyfleu, ac yn enwedig â'r amcan a'r pwrpas cyffredinol sydd ganddo mewn golwg. Yr amcanion hynny bob amser yw,—cyfiawnder, dyngarwch, a thynerwch."

Addefodd fod gan y Senedd, yn yr amser