Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi ymddwyn yn wahanol i'r modd y darfu, y buasai yn teimlo yn anobeithiol am ei wlad.

"Yn ol ein barn ni," meddai, "ni chyflawnwyd gweithred fwy ardderchog gan unrhyw Lywodraeth na'r un a gyflawnodd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn yr achos hwn. . . . un peth oedd derbyn llywodraeth gwlad o ddwylaw rhai oedd yn awyddus i'w rhoi i fyny, ond peth arall oedd cymeryd meddiant o honi a'i chadw â llaw gadarn. . . . Oddiwrth yr hyn yr ydym wedi ei gael allan trwy ymchwiliad, yr ydym yn credu fod ein gwaith yn cysylltu y Transvaal wrth ein Hymherodraeth ni, yn weithred o drawsfeddiant o'r natur fwyaf digywilydd ac anghyfiawn a ellir ei gael yn hanes y byd. Pe buasem wedi apelio at deimladau rhyfelgar y wlad hon, ac wedi penderfynnu cadw meddiant o'r Transvaal trwy ein nerth milwrol, mae yn ddiameu y buasem yn y diwedd wedi gorchfygu y Boeriaid; ond buasem am flynyddoedd, os nad am genedlaethau, wedi gorfod eu dal tanodd trwy nerth milwrol. Pan feddyliom ei fod wedi ei brofi wedi hynny fod 6,591 yn erbyn 587 wedi pleidleisio, er gwaethaf bygythiadau, o blaid anibyniaeth, nid rhyfedd fod Mr. Gladstone wedi dweud yn y Tŷ fod anrhydedd Prydain yn galw am i ni adferu iddynt eu hanibyniaeth heb ychwaneg o dywallt gwaed, ac wedi cyhoeddi dymuniad cryf i fyw yn heddychol â phobl ddewr, y rhai a brofasant eu hunain yn deilwng o fod yn arloeswyr ffordd gwareiddiad yn erbyn gormesdeyrniaid Affrica." Hawdd canfod oddiwrth y geiriau hyn fod Mr. Richard yn mawr gymeradwyo yr hyn a