Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wnaeth Mr. Gladstone y pryd hwn, a'i fod ynhell o edrych arno yn un o gamgymeriadau mwyaf oes y gŵr mawr hwnnw, fel dadleuir gan lawer yn y dyddiau hyn.

Yn Hydref, 1881, cyflwynwyd anerchiad i Mr. Richard gan Gymdeithas Heddwch Leicester. Yn y cyfarfod gwnaeth gyfeiriadau dyddorol iawn at waith mawr ei fywyd, sef "ceisio parhau adsain anthem yr angylion,—'ar y ddaear tangnefedd, ac i ddynion ewyllys da." Yr oedd, meddai, wedi bod am 34 mlynedd a mwy, yn ceisio cario y genhadwri honno i bob parth bron o Loegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd wedi talu cynnifer a 30 o ymeliadau a'r Cyfandir, a thrwy gyfarfodydd a chynhadleddau, wedi gwneud a allai i ddal i fyny adsain yr anthem ogoneddus honno.

Yn Eisteddfod Merthyr, yn 1881, cawn Mr. Richard yn llywyddu yn y prif gyfarfod. Cyflwynwyd anerchiad iddo yn nodi y gwahanol ffyrdd yr oedd wedi gwasanaethu ei genedl, ac yn ystod ei atebiad—yng Nghymraeg —dywedodd, er ei fod wedi bod am hanner can mlynedd yn Lloegr, nad oedd wedi anghofio Cymru; a phan aeth i Lundain gyntaf ei fod wedi penderfynnu tri pheth, sef nad anghofiai iaith ei wlad, nad anwybyddai bobl a sefydliadau ei wlad, ac y defnyddiai bob