Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymofyniad hwnnw o Hydref, 1880, hyd Gorffennaf, 1881. Cynhaliodd 50 o gyfarfodydd yng ngwahanol rannau Cymru, o Gaergybi ym Môn i Gasnewydd ym Mynwy; arholwyd 275 o dystion, o arglwyddi ac esgobion i lawr i weithwyr; a gofynwyd tuag ugain mil o gwestiynau. Yr oedd corff mawr y tystiolaethau y fath fel ag i lwyr argyhoeddi yr holl aelodau, a pheri iddynt gytuno ar Adroddiad ag y teimlid ei fod yn berffaith deg i genedl y Cymry, pa mor siomedig bynnag y gallai fod i'r rhai a ddalient eu gafael mewn breintiau a fwynhaent ar draul y genedl, ond i'r rhai nad oedd ganddynt unrhyw hawl. Yr oedd Mr. Richard yn gwybod yn dda pa fodd i ofyn cwestiynau a ddygent yr holl sefyllfa yn glir a diamheuol o flaen y pwyllgor, a theimlai aml un o'r rhai nad oedd rhyw lawer o gymhwyster yn ei ffeithiau i ddal goleuni dydd, fod ei ddwylaw arno yn anghyfleus o drymion, Cyn dechreu ar waith mawr y Pwyllgor Addysg, aeth Mr. Richard gyda Mrs. Richard a Mr. a Mrs. Bishop ar daith i Switzerland, er mwyn cyfnerthiad i'w iechyd. Er ei fod, bellach, tua deng mlwydd a thriugain oed, nid oedd yn segura, hyd yn oed pan ar ei wyliau oddicartref. Ysgrifennai lythyrau, erthyglau ar wahanol faterion, ac astudiai y "Llyfrau Gleision" er mwyn ymgymhwyso at waith mwy yn y