Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a wnaeth ar y Departmental Conmittee. Atebwyd yr erthygl gan Mr. Richard yn y British Quarterly Review; a chan fod yr erthygl hon yn rhoi syniad i ni am y gwaith pwysig a gyflawnodd ar y pwyllgor, y mae yn werth gwneud talfyriad o honi. Cawn ynddi amddiffyniad Mr. Richard ei hun yn erbyn cyhuddiadau yr esgob, a dengys i ni mor gryf oedd y rhagfarnau y gorfu iddo weithio yn eu herbyn.

Dechreua trwy ddweud fod boneddwr yn perthyn i Goleg yng Nghymru wedi ysgrifennu unwaith at Aelod Seneddol i ofyn a oedd dim modd cael casgliad cyflawn o bapurau Seneddol yn dwyn perthynas a Chymru. Yr atebiad oedd, nad oedd dim papurau o'r fath mewn bod. Ni fyddai dim anhawster i gael digon o bapurau mewn perthynas i'r Iwerddon, Afghanistan, neu Twrci, Affrica Ddeheuol, neu Syria, neu lle bynnag y bu terfysg neu wrthryfel. Dywedir mai dedwydd yw y wlad nad oes iddi hanes; ond yr oedd hynny ar y dybiaeth nad oedd gan hanes ddim i'w wneud ond â rhyfeloedd. Er fod Cymru yn amddifad o'r pethau hyn, yr oedd ganddi ei hanes er hynny. Yr oedd am ganrif a hanner wedi bod yn ymddatblygu yn ddistaw mewn amgylchiadau allanol ac mewn cynnydd meddyliol. Gwnaeth gynnydd mawr