Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn addysg; yn ei hysgolion Sabothol—y rhai perffeithiaf mewn unrhyw wlad—ac yn ei hysgolion dyddiol. Yn ystod y 30 mlynedd blaenorol yr oedd wedi gwario dim llai na 150,000p ar ysgolion a cholegau. Yr oedd hefyd wedi ychwanegu at ei llenyddiaeth yn ddirfawr. Yn ol cyfartaledd y boblogaeth, dengys Mr. Richard, trwy ystadegau, fod gan Gymru fwy o gymaint arall o gyfnodolion na Lloegr, un a hanner mwy nag Ysgotland, a chymaint bedair gwaith a'r Iwerddon. Ac allan o'r 32 o gyfnodolion Cymreig, nid oedd gan yr Eglwys Sefydledig ond 4.

Ond o'r diwedd cafodd Cymru "Lyfr Glas" yn cynnwys mwy na mil o dudalennau yn gyfangwbl iddi ei hunan ar sefyllfa addysg uwchraddol yng Nghymru. Ar ol galw sylw at gyfansoddiad y pwyllgor, a'r ffaith, fel y sylwyd, nad oedd ond un Ymneillduwr arno, dywed nad oedd neb a fedrai gyhuddo y pwyllgor o fod yn rhy bleidiol i Ymneillduaeth. Os oedd lle i gwyno hefyd, fel arall yr oedd yn hollol. Gwnaeth y pwyllgor ei waith, pa fodd bynnag, a derbyniwyd ei Adroddiad gan y Senedd a'r wlad yn dra ffafriol. Derbyniwyd ef hefyd gyda chymeradwyaeth gan y Dywysogaeth. Yr unig eithriad ydyw rhyw ddosbarth o glerigwyr, y rhai a flinid yn fawr oherwydd presenoldeb