Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Anghydffurfiwr[1] ar y pwyllgor. Mae teimladau y cyfryw wedi eu datgan yn y Church Quarterly Review mewn modd tra hynod, ond nid mewn modd tra chrefyddol. Rhaid i ni esbonio tipyn ar gwynion y bobl, druain, erlidiedig hyn. Mae'n ymddangos fod Mr. Richard wedi ymgymeryd a'i waith ar y pwyllgor ar yr egwyddor fod y Cynllun Addysg a gynhygid i Gymru i fod, nid yn unig yn un effeithiol, ond yn un a gymeradwyid gan Gymru. Hyd yn hyn yr oedd yr Ysgolion Gwaddoledig bron i gyd wedi syrthio i ddwylaw yr Eglwyswyr. Er bod 35,000 allan o 49,000 poblogaeth Sir Fôn yn Ymneillduwyr, nid oedd un Ymneillduwr ar Ysgol Waddoledig Beaumaris. Nid oedd modd y byddai yr Ymneillduwyr yn foddlawn, ac y mae Adroddiad y Pwyllgor wedi profi hynny. Danghosai tystion lawer fod yr Eglwyswyr wedi gwneud ymdrechion i broselytio y plant ir Eglwys, lle yr oedd "athrawiaethau amryw a dieithr" wedi eu dwyn i mewn. Yn awr y, gwyn yn erbyn Mr. Richard ydyw ei fod wedi gofyn cwestiynau i'r tystion o flaen y Pwyllgor ag oedd yn dwyn y ffeithiau anghysurus hyn i'r amlwg. Ond pa fodd y gallai lai, heb

fod yn anffyddlon i'w ymddiriedaeth? Beth

  1. Mr. Richard.