Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y ffeithiau a ddygwyd i'r golwg? Cafwyd fod 15,700 o fechgyn yng Nghymru a Mynwy eisieu Addysg Uwchraddol. Ar eu cyfer yr oedd 27 Ysgolion Gwaddoledig gyda gwaddol o 12,788p.; nad oedd ond 1,540 o fechgyn yn yr ysgolion hyn; bod dwy ran o dair o'r rhai hynny yn blant Eglwyswyr; a bod plant Anghydffurfwyr yn cael eu danfon i ysgolion ymhell, ar gost fawr, yn hytrach na'u bod yn cael eu danfon i'r Ysgolion Gwaddoledig yn eu cymdogaeth eu hunain. Onid oedd ffeithiau fel hyn o bwys mawr, ac onid oedd Mr. Richard yn gwneud gwasanaeth mawr wrth eu dwyn i'r amlwg? Yn wir, yr oedd cyfarfodydd wedi eu cynnal yng Nghymru i ofyn ar fod sylw yn cael ei alw at y ffeithiau hyn.

Ond yr oedd rhai clerigwyr yn honni nad oedd un lle i gwyno oherwydd fod Ymneillduwyr yn gorfod danfon eu plant fel hyn i Ysgolion Eglwysig. Gan nad oedd yr esgid yn gwasgu eu traed hwy, nid oedd yn gwasgu o gwbl. Nid oeddent hwy, medd y clerigwyr hyn, wedi clywed neb yn cwyno! Yr oeddent mor ffol a thybied mai atynt hwy yr aethai yr Ymneillduwyr i ddweud eu cwynion! Yr oedd Mr. Richard wedi meiddio gofyn i rai o'r tystion Eglwysig hyn sut y buasent hwy yn