Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teimlo pe gorfodasid hwy i ddanfon eu plant i Ysgolion Ymneillduol? Wrth gwrs, yr oedd hwn yn gwestiwn anhyfryd iawn oddiwrth aelod o'r Pwyllgor ei hunan.

Ond yr oedd Mr. Richard wedi digio yr Adolygydd yn y Church Quarterly Review mewn dau beth arall. Un ydoedd ei fod wedi pleidio fod addysg grefyddol yn yr ysgolion dan sylw i gael ei hymddiried yn gyfangwbl i rieni a dysgawdwyr crefyddol y plant, a hefyd bod y Cymry mor grefyddol fel nad oedd yn debyg yr esgeulusid y rhan hon o'u haddysg, gan eu bod, yn ystod y can mlynedd blaenorol, wedi codi 3,500 o gapelau, ac yn gwario tua 400,000p. yn y flwyddyn ynglŷn â hwynt. Yr oedd hyn yn blino yr adolygydd yn enbyd. Codwyd y capelau, meddai, oddiar gau ddibenion, yr oeddent mewn dyled fawr, nid oedd dylanwad yr Ysgolion Sabothol wedi bod yn iachus, ond, yn hytrach, wedi cynhyrchu marweidd-dra ysbrydol ac oferedd crefyddol. Mae Mr. Richard yn dangos y modd twyllodrus y mae yr adolygydd yn ceisio profi y gosodiadau hyn, sef pigo dywediadau dynion da, yma ac acw, am yr angenrheidrwydd oedd am lafurio yn fwy gydag achos dirwest a phurdeb. Ie, mwy. Yr oedd yr adolygydd yn ddigon haerllug i honni fod y drygau hyn y cwynid o'u