Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

herwydd yn ffrwyth Ymneillduaeth yn unig. Mae Mr. Richard yn dangos y modd yr oedd y gwŷr hyn yn duo cymeriad eu cydwladwyr, i'r diben o wasanaethu eu plaid, ac yna y mae yn amddiffyn cymeriad y Cymry yng ngwyneb y cyhuddiadau hyn gyda'i ddeheurwydd arferol. Dywed fod rhywbeth anwrol yn eu dull o bardduo eu cydgenedl fel hyn. Nid yng Nghymru y gwneid hyn; ac nid yn yr iaith Gymraeg, onide buan y mygid eu haeriadau gan atebion diwrtheb; ond gwneid y cyhuddiadau mewn papurau Seisnig, lle yr oedd y gwenwyn yn treiddio, a lle nad oedd yn bosibl i'r gwrthwenwyn gael dod i mewn.

Ar ol ateb y cyhuddiad mewn perthynas i ddyledion y capelau a phethau ereill, dengys mor ddisail ydoedd y cyhuddiad a wneid gan yr adolygydd am anghymedroldeb Cymru. Yr oedd yr adolygydd wedi cael rhyw un i gyfrif y nifer a fynychai dafarnau neilltuol yn Abertawe a Merthyr, ac yna yn eu lluosogi hwy â holl nifer y tafarndai, a thrwy hynny yn gwneud allan fod un o bob pump o drigolion swydd Morganwg yn mynychu tafarndai ar y Saboth! Treulir gweddill yr erthygl gampus hon i drin cwestiwn moesoldeb y Cymry yn gyffredinol, a therfyna trwy ddweud nad oedd dim yn fwy effeithiol i ddwysau a phrysuro y cri am