Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

os ceid llong gynnau, yn achlysurol, gan y wlad hon, na fyddai fawr o drafferth gyda'r brodorion. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn credu mewn llywodraethu trwy longau arfog. [Yma, fe waeddodd Mr. Gladstone, "Clywch, clywch, ac eto y mae y cenhadon yn galw am danynt yn barhaus."] Atebodd Mr. Richard, "Wel, y mae yn wir ddrwg gennyf glywed fod cenhadon yn anghofio eu cymeriad fel gweision Tywysog Tangnefedd, ac yn gofyn am longau rhyfel." Aeth Mr. Richard ymlaen i ddangos nad oedd pobl Borneo, a drosglwyddwyd fel hyn, yn meddu un llais yn y peth. Gwyddent hanes Rajah Brooke. Cafodd yntau ran o Borneo, fel y Cwmni hwn, a chwerylodd â'r brodorion, a chafodd help llong rhyfel ag oedd gerllaw, heb ddim i'w wneud, a chymerodd un o'r cyflafannau mwyaf creulon le ag a groniclir mewn hanesyddiaeth, a thalasom ni 20,000p. i'r swyddogion a'r dynion am eu gwaith. Ond er gwaethaf datleniad Mr. Richard, gan fod y peth wedi ei wneud, cymeradwywyd y Freinlen i'r Cwmni trwy fwyafrif o 125 yn erbyn 62. Fel y dywedodd Mr. Richard lawer gwaith, anhawdd iawn ydyw cael gan y Llywodraeth gondemnio gweithredoedd ein milwyr neu ein llyngeswyr am unrhyw weithred ar ol eu cyflawni, yn enwedig os buont yn llwyddiannus.