Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae ein darllenwyr wedi sylwi ar gyfryngiad Mr. Gladstone yn yr araeth uchod. Mewn cysylltiad â hyn, y mae Mr. Richard, mewn erthygl olygyddol yn yr Herald of Peace (Ebrill 1, 1882), yn crybwyll ei fod wedi clywed fod cyfarwyddwyr un Bwrdd Cenhadol, ychydig cyn hynny, wedi danfon at Fwrdd Cenhadol arall i ofyn a wnaent ymuno â hwynt i ofyn i'r Llywodraeth am amddiffyniad milwrol iddynt yng nghyflawniad eu gwaith; ac y mae Mr. Richard yn datgan ei lawenydd fod y Bwrdd hwnnw wedi gomedd cydsynio. Gresyn fod unrhyw Gymdeithas Genhadol yn awyddus i ategu eu gwaith trwy nerth arfau "cnawdol." Nid fel hyn, yn ddiau, y bwrir cestyll paganiaeth i'r llawr. "A ydyw yn bosibl," gofynnai Mr. Richard, "fod y cyfryw rai wedi anghofio geiriau eu Meistr, pan y gofynnodd ei ddisgyblion anwybodus, ym mebyd eu haddysg Gristionogol, a gaent ddwyn tân o'r nefoedd ar y Samariaid am eu bod yn gwrthod derbyn, ac yn barod i erlid, eu Meistr, —Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw.' Pa ryfedd fod anturiaethwyr masnachol mor barod i dywallt gwaed anwariaid pan y mae Cristionogion sydd yn proffesu ceisio eu troi, mor barod i wneud yr un peth?"