Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Khedive y ddau. Yna, newidiodd Arglwydd Salisbury sefyllfa pethau, a mynnodd ail osod Mr. Rivers Wilson yn ei swydd. Gomeddodd y Khedive gydsynio, a diorseddwyd ef, a phenodwyd Khedive arall gan Twrci, ar gais y ddwy Lywodraeth, sef ei nai—y Tywysog Tewfik. Yr oedd yn rhaid i hwnnw wneud yr hyn a orchymynnid iddo gan y ddau Allu. Dyma'r rheolaeth ddyblyg, y dual control y sonnid cymaint am dani ar y pryd. Parhaodd pethau yn dawel am ddwy flynedd, ac yr oedd presenoldeb y ddau reolwr hyn yn cael edrych arno fel sicrwydd y perchid y gyfraith. Ond siomwyd y disgwyliad. Ymddengys nad oedd y bobl yn hoffi ymyriad y tramoriaid hyn. Yn Chwefrol, 1881, torrodd gwrthryfel allan yn Cairo, o dan arweiniad Arabi, swyddog yn y fyddin Aifftaidd, a lledodd dros y wlad. Cododd y cri, "Yr Aifft i'r Aifftiaid, a dim ymyriad gan Alluoedd Tramor." Penderfynnodd Ffrainc a Lloegr ddal i fyny awdurdod y Khedive, ac ar yr esgus o amddiffyn bywyd ac eiddo Alexandria, danfonwyd yno ddwy o longau rhyfel; ond, ar gais Germani, meddir, gwrthododd Ffrainc fyned ymlaen. Yr oedd Mr. Richard yn teimlo yn bur ofidus oherwydd y cam hwn o eiddo y Weinyddiaeth, gan fod ei barch i Mr. Gladstone, y Prif Weinidog, yn fawr. Ac yr