Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn teimlo hefyd oherwydd fod ei gyfaill, Mr. Bright, yn aelod o'r Weinyddiaeth. Pa fodd bynnag, pan benderfynnodd y Llywodraeth wneud ymosodiad ar Alexandria, rhoes Mr. Bright ei swydd i fyny. Yr oedd presenoldeb y llynges yn hytrach yn gwneud perygl yr Ewropeaid yn Alexandria yn fwy. Ar y 17eg o fis Mehefin, torrodd terfysg allan, llusgwyd Consul Cyffredinol Lloegr o'i gerbyd, a lladdwyd lluaws o Saeson ac o Ffrancod. Tân-belenwyd Alexandria ar yr 11eg o fis Gorffennaf gan lynges Prydain. Yr oedd llynges Ffrainc, fel y dywedwyd, wedi tynnu yn ol. Parhaodd yr ymosodiad am ddau ddiwrnod. Gadawodd Arabi yr amddiffynfeydd caerog, gan adael Alexandria yn nwylaw y bobl. Torrodd pob math o aflywodraeth allan, taflwyd drysau y carcharau yn agored, gosodwyd rhannau o'r ddinas ar dân, ac am ddeuddydd nid oedd dim ond difrod a dinistr yn cymeryd lle. Lladdwyd tua 2,000 o Ewropeaid.

Yr oedd ychydig o wýr dewr, fel Mr. Richard ac ereill, yn codi eu llef yn uchel yn erbyn y galanastra hwn. Ar yr 22ain o Awst, glaniodd Arglwydd Wolseley a chadfridogion ereill yn Port Said, gyda 40,000 o wŷr, ac ymladdwyd brwydrau Tel-el-Mahuta, Kassassin, a Tel-el. Kebir. Gorchfygwyd Arabi, a dihangodd i