Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cairo; ac, yn y diwedd, rhoes i fyny i'r Galluoedd Prydeinig.

Yr oedd Mr. Richard wedi cyhoeddi, rhai wythnosau cyn toriad y rhyfel allan, wrthdystiad yn erbyn gwario arian a thywallt gwaed pobl y wlad hon i sicrhau llogau ir bond-holders. Ceisiodd gan y Llywodraeth hefyd addaw peidio arfer gallu milwrol cyn rhoddi cyfleustra i'r Tŷ ddatgan ei farn, ond gomeddodd y Prif Weinidog rwymo ei hun. Pan ddaeth y newydd fod Alexandria wedi ei than-belennu, gofynnodd Mr. Richard ai nid oedd dealltwriaeth ymysg y Galluoedd oeddent yn cael eu cynrychioli yn y Gynhadledd yng Nghaercystenyn, na chymerid dim cam gan un Gallu tra yr oedd yr ymdrafodaethau yn myned ymlaen; ac ai nid oedd tan-beleniad Alexandria yn drosedd o'r ddealltwriaeth honno? Addefai Mr. Gladstone fod y cyfryw ddealltwriaeth yn bod, ond yn ddarostyngedig i eithriadau, a bod y tan-beleniad i gael edrych arno fel un o'r eithriadau hynny.

Yn ei araeth yn y Senedd ar y cwestiwn, datganai Mr. Richard ei ofid fod gwŷr fel Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville wedi ein harwain i'r trybini hwn.

"Nid wyf," meddai, "wedi arfer defnyddio geiria, gweniaeth tuag at y boneddwr anrhydeddus sydd yn