Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ben ar y Weinyddiaeth. Ni fuaswn yn ystyried fy hun yn ddigon pwysig i wneud hynny; ond yn awr, gan fy mod yn gwahaniaethu oddiwrtho, fe ganiateir i mi ddweud nad wyf yn ildio i neb yn fy edmygedd dirfawr o'i alluoedd dihafal, ac yn fy mharch dwfn i'w gymeriad. Y mae enwogrwydd a chymeriad gwŷr fel efe yn ffurfio rhan o etifeddiaeth gyffredin y blaid Ryddfrydig, ac, yn wir, y genedl yn gyffredinol, ac nid yr ofn lleiaf sydd yn fy meddiannu, yn awr, yw y bydd i'r digwyddiadau anffodus sydd wedi cymeryd lle daflu cysgod ar ddiwedd gyrfa mor enwog a disglaer. (Cym.) Nis gallaf bleidleisio dros yr arian yma; nid yw i mi ond gwerth gwaed, a chan nas gallaf, ond trwy bleidleisio yn erbyn, roi ar gof a chadw fy nghwrthdystiad yn erbyn y gweithredoedd hyn, rhai yr wyf yn gydwybodol yn credu sydd mor anoeth ag ydynt o ddrygionus, a'r rhai sydd yn agor o'n blaen ddyfodol llawn o bosibilrwydd bygythiol a pheryglus, yr wyf yn penderfynnu pleidleisio yn erbyn y cynhygiad pe byddai raid i ni gerdded i'r lobby fy hunan." (Cym.)

Y cynhygiad a wrthwynebai Mr. Richard gyda'r fath wroldeb oedd, fod y swm o 3,300,000p. i gael ei ganiatau i'w Mawrhydi i gryfhau ei galluoedd milwrol ym Môr y Canoldir, yn ychwanegol at y costau arferol.

Ond nid gwrthwynebu Mr. Gladstone oedd unig ofid Mr. Richard ar yr achlysur hwn. Gofidiai fod cynnifer o gyfeillion Heddwch wedi troi eu cefnau yn nydd y frwydr. Pe buasent wedi dilyn yr un cwrs ag y darfu ef ac ychydig