Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwers lem i Senedd Prydain, rhaid addef; ond ofnwn mai nid heb ei haeddu, nid yn unig yn y dyddiau hynny, ond yn arbennig yn y dyddiau hyn.

Edrychai Mr. Richard ar wrthryfel Arabi, nid fel yr edrychai Llywodraeth Mr. Gladstone arni, sef fel gwrthryfel milwrol, ond fel gwrthdystiad yr Aifftiaid yn erbyn ymyriad tramor â'u hachosion hwy. Ysgrifennodd erthyglau galluog ar y cwestiwn, seiliedig ar dystiolaethau eglur papurau swyddogol oedd yn cadarnhau ei olygiadau ef ar y gwrthryfel.

(1883) Cafodd Mr. Richard gyfleustra ar y 13eg o Ebrill, 1883, i ddweud ei farn ar un wedd ar Ryfel nad yw yn aml yn cael ei ddwyn i'r amlwg, a danghosodd wroldeb yn siarad mor gryf ag y gwnaeth arno o dan y fath amgylchiadau. Ar y dydd crybwylledig, cynhygiwyd yn y Tŷ fod y Llyngesydd Seymour, ac Arglwydd Wolseley, a'u holynwyr am ddwy genhedlaeth, i gael blwydd-dâl o 2,000p. Gwrth wynebwyd y cynhygiad gan Syr J. W. Pease, Dr. Illingworth, a Syr Wilfred Lawson. Traddododd Mr. Richard araeth gref ar yr achlysur. Nid oedd yn gwrthwynebu y cynhygiad ar y tir ei fod yn anghymeradwyo y rhyfel, oblegid nid oedd y ddau filwr a nodwyd yn gyfrifol am gyfiawnder y rhyfel; na, eu gwaith hwy oedd ymladd yn unig. Yng ngeiriau Syr Charles