Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gorfoli ar y dosbarth hwn Llywodraethau Ewrob oedd yn dysgu y bobl i ddibynnu ar allu anifeilaidd; ac eto, yr oeddent yn ofni iddo gael ei ddefnyddio pan godai y bobl hynny i hawlio eu hiawnderau. Nid oedd efe yn credu fod y gallu milwrol yn feddyginiaeth rhag unrhyw anghyfiawnder; ond nid oedd yn rhyfedd fod y bobl weithiau yn troi i'w ddefnyddio, gan fod eu llywiawdwyr yn eu dysgu felly. Cafodd Mr. Richard 85 allan o 217 i'w bleidio ar yr achlysur hwn. Nid am boblogrwydd yr oedd efe yn gweithio, ond i amddiffyn gwirionedd.

Nid anyddorol ydyw'r ffaith fod Mr. Richard, y flwyddyn hon, wedi ysgrifennu llythyr i'r Tyst a'r Dydd, am ei fod yn credu fod y papur hwnnw yn gwyro oddiwrth y gwirionedd, trwy droi i geryddu Syr Wilfrid Lawson, a'i gyffelyb, am wrthwynebu rhyfel yr Aifft, a'r rhan a gymerodd Mr. Gladstone yn y rhyfel hwnnw. Mae y llythyr hwn yn werth cyfeirio ato hefyd, oherwydd y perygl yr oedd Mr. Richard yn ei ragweled a ddeilliai o'r rhyfel yn yr Aifft yn y dyfodol. Dywed ein bod wedi myned i'r Aifft, ond pa bryd y deuem oddiyno, nid oedd neb a wyddai. Yr oedd mor anhawdd i ni ddod allan o wlad Aifft ag yr oedd i blant Israel gynt, ac ofnai na ddeuem allan heb fyned trwy Fôr Coch o waed dynol. Hwyrach mai parch i Mr.