Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gladstone oedd yn cyffroi y Golygydd, ond dywedai Mr. Richard,—

"Yr wyf yn tystio fy mod yn parchu ac yn hoffi Mr. Gladstone gymaint ag un dyn yn y deyrnas; ond y mae un teimlad wedi gwreiddio yn fwy dwfn yn fy meddwl, a hwnnw ydyw ofn y Duw hwnnw sydd yn cashau anghyfiawnder a gormes.”

Ni fuwyd yn hir cyn gorfod gwynebu y "Môr Coch o waed" y cyfeiriodd Mr. Richard ato. Cododd gwrthryfel yn y Soudan, ac ym mis Medi danfonwyd Hicks Pasha, Swyddog Indiaidd yng ngwasanaeth y Khedive, i'w ddarostwng, gyda byddin o 11,000 o filwyr yr Aifft; ond ar ol dioddef caledi dirfawr, o dan wres haul y Cyhydedd, gorchfygwyd a dinistriwyd hwynt gan luoedd y Mahdi, y gau broffwyd. Wedi hynny, llethwyd Baker Pasha gyda'i fyddin o 3,500 gan filwyr Osman Digna. Fel arferol, gwaeddai y wlad am fynnu dial y colledion hyn, a danfonwyd cadgyrch o dan y Cadfridog Graham, ac ymladdwyd brwydrau yn El Teb, Tamai, a Tanianieb, a lladdwyd tua 5,000 o'r Soudaniaid.

Cododd Mr. Richard ei lef yn erbyn y rhyfelgyrch hwn. Nid oedd yn gweled mai dyledswydd Prydain oedd dial gorchfygiad un fel Hicks Pasha, oedd yn unig wedi gwerthu ei hun i ymladd brwydrau yr Aifft, yn enwedig gan