Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Mr. Richard yn erbyn danfon allan yr ymgyrch hwn, ac yn tybied fod anhueddrwydd Mr. Gladstone ar y dechreu i wneud hynny yn beth canmoladwy. Beiai llawer o gyfeillion Mr. Richard ef am y rhan a gymerodd yn yr achos hwn; ond nis gallesid disgwyl dim yn amgen oddiwrth un oedd mor ffyddlon bob amser i egwyddorion Heddwch. Heblaw hynny, yr oedd wedi gwrthwynebu pob ymyriad o'r dechreu, a hynny nid oddiar safle manylaf Cymdeithas Heddwch, ond oddiar safle cyfiawnder a moesoldeb, a'r hen athrawiaeth Ryddfrydig o anymyriad diangenrhaid â helyntion gwledydd tramor.

(1885) Traddododd Mr. Richard araeth alluog yn y Senedd ym mis Chwefrol, 1885, ar yr achos hwn, ar achlysur cynhygiad a wnaed gan Arglwydd Iddesleigh. Wrth ddarllen yr araeth finiog ac effeithiol hon, yr ydym yn canfod yn eglur fod Mr. Richard wedi ennill nerth a gwroldeb mawr fel dadleuydd Seneddol. Dadleuai fod pawb a gymerodd ran yn yr ymyriad hwn yn helyntion yr Aifft, yn gyfrifol am yr helbul yr oedd y wlad ynddo. Yr oedd y Prif Weinidog wedi dweud fod y cam cyntaf a gymerwyd yn yr achos wedi arwain yn anocheladwy i'r camrau dilynol. Llawenychai Mr. Richard, gan hynny, fod ei ddwylaw ef yn