Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyna oedd tystiolaeth Gordon, yntau hefyd. Os felly, pa hawl oedd gennym i fyned yno i'w lladd am ymgais am eu hiawnderau? Pam na fuasem yn ceisio dod i fath o ymdrafodaeth â'r Mahdi i gael ganddo roddi yr amddiffynfeydd i fyny? Yr oedd tri o honynt wedi eu rhoi i fyny. Ni wnaed un ymgais i ddod i delerau. Yr oedd yn rhaid cael ymostyngiad diamodol. Beth oedd y cyfarwyddiadau a roed i Arglwydd Wolseley? Dod a Gordon a Stewart o Khartoum, a dim mwy na hynny. Pleidleisiodd Mr. Richard o blaid gwelliant Mr. Morley, sef bod y milwyr i gael eu dwyn adref o'r Soudan mor fuan ag oedd modd.

Dywedodd Mr. Balfour unwaith, os cymerai Prydain un cam ymlaen, na fyddai byth yn tynnu ei throed yn ol. Ai doeth hyn bob amser sydd gwestiwn. Cymerodd gam yn yr Aifft, ac y mae, nid yn unig heb dynnu yn ol, ond wedi cymeryd camrau lawer ymlaen, o fodd neu anfodd, ac y mae lle i ofni, y byddant yn rhai pwysig, os nad peryglus iawn. Fel y dywed Mr. Justin McCarthy yn ei gyfrol olaf ar Hanes ein Hamseroedd,—"Pe buasent wedi ymgynghori â phobl ddeallgar Prydain, ni fuasid byth yn tanbelennu Alexandria, ac ni fuasid wedi ymladd âg Arabi Pasha, a'i ddanfon i alltudiaeth; ond, with gwrs, nid oedd pobl