Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lloegr yn gwybod ar y dechreu beth oedd yn myned ymlaen. Mae ein Gwladweiniaeth Dramor yn hollol yn nwylaw ein llywodraethwyr, fel y mae yn nwylaw Unbenaethiaid y Cyfandir." Yr oedd Mr. Richard yn teimlo hyn, a dygodd y cwestiwn o flaen Tŷ y Cyffredin mewn un ffurf arbennig arno, fel y gwelir ar t.d. 253. Gwyddom fel y mae Prydain wedi myned ymlaen, nes cymeryd meddiant o'r Soudan trwy dywallt gwaed miloedd o'r trigolion anwar hyn. A ydyw yr ennill yn cyfiawnhau y traha ofnadwy sydd gwestiwn ag y mae llawer, fel John Morley, yn methu ei weled. A dilys yw y buasai Mr. Richard wedi codi ei lef yn uchel yn y mater hwn, pe buasai byw.