Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVII

Colegau Gogledd a Deheudir Cymru—Ei Lafur Seneddol—Arwyddion Henaint—Ei Daith ar y Cyfandir—Ei Ysgrifau i'r Newyddiaduron, a'i Lafur yn y Senedd—Ei Ymddiswyddiad fel Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei Anrhegu â 4,000g.—Rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd—Datgorfforiad y Senedd—Etholiad Mr. Richard am y Bedwaredd Waith.

Yr ydym wedi dilyn hanes y rhyfel yn yr Aifft, a'r rhan bwysig a gymerodd Mr. Richard yn, a thu allan i'r Senedd, yn ei wrthwynebu, nes cael ein hunain yn y flwyddyn 1885. Ond rhaid i ni droi yn ol ychydig i groniclo rhai pethau yn hanes Mr. Richard na ddylem eu hesgeuluso.

Yn Ionawr, yn y flwyddyn 1883, yr oedd Mr. Richard yn bresennol mewn Cynhadledd i ystyried y moddion goreu i'w mabwysiadu mewn perthynas i'r rhodd o 4,000p. yn y flwyddyn oddiwrth y Llywodraeth at y Coleg yng Ngogledd Cymru; y tro cyntaf, fel y dywedodd Arglwydd Aberdeen, y Cadeirydd, y gwelodd y Llywodraeth yn dda ymddwyn tuag at Gymru