Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel yn meddu rhyw gymaint o anibyniaeth. Yn y cyfarfod tra dylanwadol hwn yr oedd yn bresennol y Duc Westminster, Esgob a Deon Bangor, Esgob Llanelwy, Clerigwyr ereill, Penaethiaid Sefydliadau Addysgawl, a thua dwsin o Aelodau Seneddol. Ar ol cynnyg y penderfyniad cyntaf gan Mr. Richard yn cymeradwyo cael Coleg i Ogledd Cymru, a'i gefnogi gan Esgob Bangor, cynhygiwyd gwelliant gan y Milwriad Cornwallis West, a chefnogwyd ef gan Mr. Darbishire," na fyddai dim penderfyniad yn cael ei basio gyda golwg ar dderbyniad y rhodd oddiwrth y Llywodraeth, hyd nes y byddai y Mesur gyda golwg ar Addysg Ganolraddol wedi ei osod gerbron y Senedd." Collwyd y gwelliant trwy fwyafrif mawr. Penodwyd pwyllgor i ddewis lle y Coleg, a phenodwyd ar Fangor bron yn unfrydrol. Tanysgrifiwyd tua 37,000p. i gych- wyn y Coleg, ac ymhen amser, cafodd Aberystwyth hefyd rodd gan y Llywodraeth o 4,000p, yn y flwyddyn.

Ar y 24ain o Hydref, yn yr un flwyddyn, agorwyd Coleg Deheudir Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd, ar ol cyd-ymgais brwd rhyngddi âg Abertawe. Traddodwyd yr Anerchiad Agoriadol gan Arglwydd Aberdare, yr hwn a etholwyd yn llywydd y Coleg, a Mr. Richard yn is-lywydd. Traddododd Mr. Richard araeth