Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond ar bwnc ag y teimlai pawb ei fod yn feistr perffaith arno. Yr oedd henaint, er hynny, wedi ei oddiweddyd, a'i iechyd ymhell o fod yn foddhaol. Aeth i Itali yn y flwyddyn 1884, gyda'i wraig. Yn Milan, aeth i gynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyfraith Rhyngwladwriaethol. Pan yn Itali y tro hwn cafodd dderbyniad croesawgar iawn. Treuliodd beth amser yn Varese, a bu y daith yn wellhad dirfawr i'w iechyd. Hoffai olygfeydd natur yn fawr, a meddai mynyddoedd uchel swyn arbennig iddo. Cerddodd i fyny Monte Generosa, yr hwn oedd filoedd o droedfeddi o uchder.

Nid oedd ei ysgrifell byth yn segur. Ysgrifennodd lythyr tarawiadol iawn ar sefyllfa yr amseroedd, yr hwn a ymddanghosodd yn y Christian World, y Nonconformist, y South Wales Daily News, a lluaws o bapurau ereill. Gwasgai ar bawb i anfon llythyrau at Mr. Gladstone yn condemnio myned i orchfygu y Soudan. Credai y byddent, mewn gwirionedd, yn dderbyniol gan Mr. Gladstone ei hun. Tua'r amser hwn hefyd ysgrifennodd lythyr i'r Pall Mall Gazette ar yr anghydfod oedd yn codi rhwng Rwsia a'r wlad hon gyda golwg ar Afghanistan, a gofynnai paham nad allai yr holl gwestiwn gael ei gyflwyno i gyflafareddiad. Gofynnodd i Mr. Gladstone yn y Senedd hefyd