Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr un cwestiwn; yn gymaint a bod Rwsia a Lloegr yn bleidiau yn y Cytundeb a wnaed yn Paris ar ol rhyfel y Crimea, yr hwn a gynhwysai adran ar gyflafareddiad. Atebiad Mr. Gladstone ydoedd, nad oedd yr ymdrafodaeth eto wedi cyrraedd y pwynt ag oedd yn gwneud hynny yn angenrheidiol. Oherwydd fod yr achos mor bwysig, tynnodd Mr. Richard, wedi hynny, gofeb at Mr. Gladstone, wedi ei harwyddo gan John Bright, Samuel Morley, John Bryce, ac uwchlaw 80 ereill o aelodau Seneddol, yn gwasgu ei gwestiwn adref, a'r canlyniad fu, fod Mr. Gladstone, ar y 4ydd o Fai, wedi hysbysu y Tŷ fod y mater wedi ei gyflwyno i gyflafareddiad. Pwy fedr fesur y gwasanaeth hwn i'r deyrnas gan Mr. Richard a'r rhai yr oedd yn cydweithio â hwy, a phwy na ofidia na wnaed yr un peth yn helynt y Transvaal?

Yr oedd yr echryslonderau a gyflawnid yn y Soudan yn "poeni enaid cyfiawn" Mr. Richard tua'r amser hwn. Ysgrifennodd anerchiad o dan ei law, a llaw llywydd y Gymdeithas Heddwch ar y mater. Wrth ysgrifennu i gyfarfod a gynhaliwyd yn St. James' Hall i wrthdystio yn erbyn yr echryslonderau a nodwyd, dywedai, "Prin y gallaf ymollwng i siarad fel yr wyf yn teimlo wrth glywed, o ddydd iddydd, am y cigyddiadau ofnadwy a diamcan sydd yn myned ymlaen yn y Soudan. Pa