Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fodd y gall rhai o'r dyniod sydd yn y Weinyddiaeth bresennol roddi eu cefnogaeth i'r fath bethau sydd i mi yn anesboniadwy."

(1885) Yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Heddwch a gynhaliwyd ar y 19eg o Fai, daeth ar y Gymdeithas yr hyn a fawr ofnai, sef rhybudd o ymddiswyddiad oddiwrth ei hysgrifennydd galluog, Mr. Richard, oherwydd henaint a musgrellni. Penodwyd Mr. William Jones-yntau yn Gymro twymgalon—yn olynydd iddo, ond dymunwyd ar Dr. Richard i barhau yn ysgrifennydd mygedol. Gwnaed cyfeiriadau parchus iawn at lafur Mr. Richard fel ysgrifennydd am 37 o flynyddoedd, ac at y gwaith mawr a wnaeth i ledaenu egwyddorion Heddwch yn ystod y tymor hwnnw, a'r modd yr oedd wedi creu teimlad mor gryf yn Ewrob o blaid cyflafareddiad. Llongyfarchwyd ef ar ei lwyddiant a'i ddylanwad Seneddol hefyd, a'i ymlyniad wrth yr un egwyddorion yno trwy glod ac anghlod. Dywedai y cadeirydd, wrth gyfeirio at ei waith mawr yn ei oes,—

"Yr ydych yn amddiffyn achos sydd, yn ol fy argyhoeddiad dwfn i, yn achos gwirionedd, rheswm, cyfiawnder, dynoliaeth, a chrefydd, ac anturiaf ddweud hefyd, achos Duw."

Nid mewn geiriau yn unig y darfu y cyfeillion