Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn ddiolch i Mr. Richard. Ym mis Gorffennaf, 1884, cyfarfu nifer o honynt yn nhŷ Syr Joseph Pease yn Llundain, a chyflwynwyd iddo y swm o ddeugain can gini (4,200p.) fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i lafur mawr a'i wasanaeth amhrisiadwy yn achos Heddwch.

Parhaodd Mr. Richard i lafurio ar ol hyn gymaint ag y caniatai ei iechyd. Bu yn ffyddlon yng nghyflawniad ei ddyledswyddau hyd ei farwolaeth. Dywedai ar yr un pryd, mewn cyfarfod yn Darlington, ei fod i raddau yn colli ei ffydd y diddymid y gyfundrefn filwrol gan lywodraethau y byd; yr oeddent wedi eu rhwymo, draed a dwylaw, wrth y filwryddiaeth ronc oedd yn gorlethu Ewrob. Ac nid oedd yn disgwyl llawer oddiwrth y Senedd ychwaith, hyd nes y deuai yn adlais tecach o lais y wlad; ac ychwanegai, mewn lle arall, hyd nes y deuai y bobl i ddeall egwyddorion Cristionogaeth yn eu cysylltiad a deddfwriaeth yn well.

(1886) Ar y 23ain o Chwefrol, 1886, cafodd Mr. Richard gyflerstra unwaith yn ychwaneg i alw sylw y Tŷ at waith Prydain yn ychwanegu Burmah at ei thiriogaethau, mewn araeth finiog iawn; ac ar y 19eg o'r mis canlynol cafodd gyfleustra hefyd i ddwyn mater ger bron y Senedd ag oedd yn dra theilwng o sylw. Cynhygiodd benderfyniad yn datgan fod