Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/272

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Tŷ yn barnu mai nid cyfiawn na doeth ydoedd cychwyn rhyfelawd a gwneud ymrwymiadau ag oedd yn gosod y wlad dan gyfrifoldeb mawr, ac ychwanegu tiriogaethau at ein hymerodraeth, heb i'r Senedd wybod a chydsynio. Dywedai ein bod yn ymffrostio ein bod yn wlad rydd; y cyffroem yn fawr pe meiddiai y Llywodraeth osod y dreth leiaf arnom heb ganiatad y Senedd, ac eto, gyda golwg a'r un pwnc o'r pwys mwyaf, yr oeddem yn gyfangwbl yn llaw ein swyddogion milwrol. Gallai unrhyw un o honynt, o'i ben ei hunan, hyrddio y wlad hon i ryfel yn erbyn gwlad arall, ac aberthu ei gwaed a'i thrysor, neu rwymo y wlad mewn cytundeb, neu ychwanegu at ei thiriogaethau, a'r cyfan heb ein gwybodaeth na'n cydsyniad ni gartref. Olrheiniodd hanes y modd yr oedd ein brenhinoedd gynt yn myned i ryfel, sef o'u mympwy eu hunain; ond nad oedd hynny yn cymeryd lle yn awr; mai y Weinyddiaeth, mewn gwirionedd, oedd yn penderfynu cyhoeddi rhyfel. Ond y drwg ydoedd fod ymrysonnau a rhyfeloedd yn aml yn cymeryd lle heb yn wybod iddynt. Mae'n wir fod gan y Senedd hawl ar y pwrs, ond yr oedd y rhyfeloedd yn fynych wedi cymeryd lle, a gwaed wedi ei dywallt; a'r cyfan a ellid ei wneud yn y diwedd oedd cadarnhau yr hyn a wnaed, a thalu y gost, neu ynte