Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y rhyfeloedd hynny y cymerasom ran ynddynt yn ystod y genhedlaeth hon—a'r nefoedd a ŵyr, meddai, y maent yn lluosog ddigon—rhyfel cyntaf Afghan, rhyfel Syria, rhyfel Scinde, rhyfel cyntaf Burmah, rhyfel China, rhyfel Persia, y rhyfel yn Japan pan ddinistriasom Kagosima, rhyfel Abyssinia, rhyfel Ashantee, a'r rhyfeloedd dirif ymron yn Neheudir Affrica, a'r ail ryfel yn Afghan,—nis gellir dweud fod cymaint ag un o honynt yn ystyr gonest y gair yn rhyfel amddiffynnol o gwbl; oblegid yn yr oll o honynt, ymron, nyni oedd yr ymosodwyr. Yr oedd digon o amser a chyfleustra i ymgynghori a'r Senedd ymlaen llaw. (Cym.) Aeth Mr. Richard ymlaen i nodi engreifftiau o gytundebau yn cael eu gwneud heb gydsyniad y Senedd, a danghosai gydnabyddiaeth drwyadl â holl amgylch- iadau ei bwnc. Nid oedd efe, meddai, yn aelod o'r Tŷ yn 1859, ond ar ei gais darfu Mr. Hadfield ofyn am hysbysrwydd am y rhwymedigaethau yr aethai y wlad hon danynt i amddiffyn gwledyd ereill ym mhob parth o'r byd, a chafwyd eu bod yn 37 mewn nifer! Nododd, wedi hynny, y modd yr oeddem wedi ychwanegu at ein tiriogaethau. Yr oeddem, y pryd hwnnw, wedi cymeryd meddiant o'r bumed ran o'r byd. Yr oedd gennym yn Canada, yn Awstralia, a Deheudir Affrica, ddigon o dir i'r boblogaeth am