Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fil o flynyddoedd i ddyfod. Dywedai rhai o'r hen Buritaniaid, y rhai oeddent i fesur, o dan y clefyd daear-newynog hwn, fod y Saint i "etifeddu y ddaear," a chan eu bod hwy yn Saint, mai eiddo iddynt hwy oedd yr holl ddaear. Gellid meddwl mai dyna deimlad Prydain yn awr. Terfynodd Mr. Richard ei araeth trwy gyfeirio at syniadau y Duc Wellington a Mr. Gladstone ei hun yn erbyn y wanc afiachus am diriogaeth, mwy yn wir nag y gallem ei drin.

Gresyn na ddarllennid yr araeth ragorol hon yn y dyddiau hyn, pan y mae y cyfryw wanc wedi dwyn ar ein gwlad helbul nad oes neb a ŵyr ei faint. Mae yn amlwg fod yr araeth wedi cael dylanwad mawr ar y Tŷ, oblegid cafwyd 114 yn erbyn 110 o blaid cynhygiad Mr. Richard, ac felly mewn gwirionedd, fe basiodd; ond gan ei fod mewn ffurf o welliant ar fod y Tŷ yn ymffurfio yn Bwyllgor o Adgyflenwad (Supply), yr oedd yn rhaid pleidleisio drachefn, ac yn y cyfamser, daeth aelodau ereill i mewn, nad oeddent wedi clywed gair o araeth rymus Mr. Richard, ac felly, pan roddwyd y cynhygiad mewn ffurf arall, collwyd ef trwy fwyafrif o 115 yn erbyn 109.

Yr oedd llawer o'r newyddiaduron pennaf yn siarad yn uchel iawn am yr araeth hon, hyd yn oed y Times yn dweud fod y ddadl arni yn